Adroddiad drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Teitl: Gorchymyn Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (Diwygio) 2011
Gweithdrefn: Gadarnhaol
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Rhan 1 o Atodlen 2 i Fesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (‘y Mesur’) drwy amnewid y tablau ynghylch yr elfennau ym mharagraffau 5 a 6. Gwneir hyn i gynyddu uchafswm yr ardollau y caniateir eu gosod ar gyfer yr elfennau cynhyrchu a chigydda/ allforio o’r ardoll cig coch.
Materion technegol: craffu
Gwahoddir y Cynulliad i dalu sylw arbennig i’r offeryn hwn o dan Reol Sefydlog 21.2.
1. Gwneir y Gorchymyn hwn drwy ddefnyddio pwerau a roddwyd i Weinidogion Cymru gan adran 5(4) o’r Mesur, na wnaed gorchymyn cychwyn eto ar ei gyfer. Er y disgwylir y bydd gorchymyn o’r fath yn cael ei wneud cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn, nid yw’r pŵer ar gael wrth i’r adroddiad hwn gael ei baratoi. [Rheol Sefydlog 21.2(i) - bod amheuaeth a yw intra vires]
Rhinweddau: craffu
Ni wahoddir y Cynulliad i dalu sylw arbennig i’r offeryn hwn o dan Reol Sefydlog 21.3.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Tachwedd 2011